Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod ein deddfwriaeth yn ein gorfodi i adfer ecosystemau, ond nad oes gennym y pecyn cymorth llawn i gyflawni hyn.
2. Yn nodi bod dad-ddofi—adfer prosesau naturiol—yn ateb hanfodol, pragmataidd, fforddiadwy.
3. Yn nodi ei fod yn cryfhau ein hadnoddau naturiol ac yn gyrru twf economaidd trwy swyddi sy'n seiliedig ar natur.
4. Yn annog arallgyfeirio'r ffordd rydym yn defnyddio tir er mwyn sicrhau y gall y maes cynhyrchu bwyd yng Nghymru ac adferiad natur ffynnu ochr yn ochr â'i gilydd
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl yr Alban drwy ddiffinio dad-ddofi yn ffurfiol yn ein fframwaith polisi, gan egluro camsyniadau a datgloi ei botensial
6. Yn galw am ddadl aeddfed, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ynglŷn â sut mae dad-ddofi yn sicrhau dyfodol gwydn a ffyniannus i Gymru