OPIN-2026-0537 Hosbisau a Gofal Lliniarol
(d)
Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod hosbisau yng Nghymru yn cefnogi miloedd o blant ac oedolion sy'n cael eu heffeithio gan salwch terfynol bob blwyddyn;
b) y rhagwelir y bydd anghenion gofal lliniarol yn cynyddu'n sylweddol dros y 25 mlynedd nesaf; ac
c) bod gofal lliniarol a diwedd oes yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal.
2. Yn cydnabod y gwaith caled a wneir gan yr holl ofalwyr yn y sector.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd, darparwyr gofal a rhanddeiliaid perthnasol eraill i ddatblygu model cyllido cynaliadwy newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes.