OPIN-2026-0536 Adroddiad y Gymdeithas Siopau Cyfleustra ar Siopau Lleol Cymru 2026
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi'r rôl bwysig sydd gan siopau cyfleustra mewn cymunedau ac economïau lleol ledled Cymru.
2. Yn croesawu cyhoeddiad Adroddiad y Gymdeithas Siopau Cyfleustra ar Siopau Lleol Cymru 2026.
3. Yn nodi ei ganfyddiadau:
a) bod siopau cyfleustra ymhlith y tri busnes uchaf o ran eu heffaith gadarnhaol yn eu cymuned;
b) bod 88 y cant o fanwerthwyr annibynnol yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch cymunedol dros y flwyddyn ddiwethaf;
c) bod siopau Cymru wedi cyfrannu dros £638 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros dros y flwyddyn ddiwethaf;
4. Yn cydnabod bod yn rhaid creu'r amodau cywir i fanwerthwyr Cymru fuddsoddi, tyfu, a pharhau i ddarparu swyddi a gwasanaethau i ardaloedd lleol.