OPIN-2026-0535 Undebau Myfyrwyr (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod undebau myfyrwyr yn chwarae rhan allweddol o ran cynrychioli lleisiau dysgwyr ar draws addysg drydyddol.
2. Yn cydnabod y swyddogion myfyrwyr newydd sy'n dechrau eu tymhorau ym mis Gorffennaf a thros y misoedd nesaf.
3. Yn cefnogi swyddogion myfyrwyr etholedig yn eu gwaith o gynrychioli a chefnogi dysgwyr.
4. Yn annog datblygu pellach o ran undebau myfyrwyr mewn darparwyr addysg bellach.
5. Yn annog darparwyr addysg i weithio'n adeiladol gyda'u hundebau myfyrwyr i ddeall yn well y materion y mae eu dysgwyr yn eu hwynebu a sut i'w cefnogi.
6. Yn diolch i swyddogion myfyrwyr am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wella bywydau dysgwyr.