OPIN-2026-0534 Y Senedd hon yn dathlu partneriaeth gymdeithasol Coleg Cambria fel stori llwyddiant yng Nghymru. (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn dathlu partneriaeth gymdeithasol Coleg Cambria fel stori llwyddiant yng Nghymru.
2. Yn cydnabod y graddau y mae'r coleg, Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru ac UNSAIN wedi datblygu system o gydweithio sy'n canolbwyntio ar atebion sy'n gallu cyflawni gwelliannau sylweddol, diriaethol.
3. Yn cydnabod bod Coleg Cambria yn arloesi trwy ganfod atebion creadigol i rai o heriau mwyaf dybryd addysg ôl-16 megis lliniaru llwyth gwaith o ran deallusrwydd artiffisial, symud tuag at wythnos pedwar diwrnod, llesiant, neu ddyrchafu llais y dysgwr.
4. Yn credu mai'r ffordd orau o gyflawni newid angenrheidiol yw trwy gydweithio, ac yn annog Llywodraeth Cymru, Medr a'r sector ehangach i hybu'r model hwn o bartneriaeth gymdeithasol ar draws addysg ôl-16 yng Nghymru.