Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi effaith ddofn lewcemia ar unigolion a theuluoedd ledled Cymru, gyda thua 400 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn.
2. Yn cydnabod pryderon am oedi o ran rhoi diagnosis, mynediad anghyfartal at driniaeth, a chanlyniadau anghyson ledled Cymru.
3. Yn nodi adroddiad 'Turning Ambition into Progress for People with Leukaemia in Wales' gan Leukaemia UK a'i argymhellion ymarferol ar gyfer gwella gofal.
4. Yn galw am weithredu i sicrhau diagnosis cynharach, mynediad cyfartal at driniaeth a gofal o safon fyd-eang, ac arweinyddiaeth, atebolrwydd ac arferion casglu data cryfach.
5. Yn cydnabod profiadau'r teuluoedd yr effeithir arnynt ac yn cefnogi ymdrechion i wella canlyniadau i bob claf y mae lewcemia yn effeithio arno.