OPIN-2026-0532 Mis Pride 2026 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi mai mis Mehefin yw Mis Balchder, y dathliad blynyddol o hunaniaethau LHDTC+.
2. Yn nodi bod y thema eleni, For All Of Us, yn canolbwyntio ar undod, cynhwysiant ac eiriolaeth dros grwpiau LHDTC+ sydd wedi'u hymyleiddio, ac yn ein hatgoffa bod Mis Pride yn ddathliad ac yn alwad i weithredu.
3. Yn ailgadarnhau'r uchelgais i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.
4. Yn cydnabod rôl sefydliadau Pride ar lawr gwlad wrth roi gwelededd i bobl yn eu cymunedau eu hunain a sicrhau lle diogel i bawb ble bynnag rydych chi'n byw yng Nghymru.
5. Yn diolch i'r gwirfoddolwyr sy'n gwneud i hyn ddigwydd.