OPIN-2026-0531 Sefyll mewn undod ag ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
(e)
Datganodd yr Aelod fuddiant
Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod rôl amhrisiadwy ymwelwyr iechyd ledled Cymru.
2. Yn nodi bod ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi mynd trwy broses gwerthuso swyddi a oedd yn paru eu rôl, eu haddysg a'u profiad â phroffil band 7.
3. Yn cydnabod bod methiant i anrhydeddu hyn wedi arwain at y gweithredu diwydiannol a alwyd gan ymwelwyr iechyd ers mis Chwefror 2026.
4. Yn nodi bod y gweithlu yr effeithir arnynt i gyd yn fenywod.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod y broses werthuso swyddi yn cael ei hanrhydeddu a bod ymwelwyr iechyd band 6 yn cael eu huwchraddio i fand 7 yn ddi-oed.
Cyflwynwyd gan
Cyd-gyflwynwyr
Tanysgrifwyr
Manylion Buddiant yr Aelod
Aelod o Uno'r Undeb (Jayne Bryant, Lynne Neagle, Mike Hedges, a Huw Thomas)