OPIN-2026-0529 Wythnos Ymwybyddiaeth Sands 2026
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Sands 2026 yn cael ei chynnal rhwng 16 a 22 Mehefin.
2. Yn cydnabod yr effaith ddinistriol y mae beichiogrwydd a cholli baban yn ei chael ar rieni, teuluoedd a chymunedau.
3. Yn nodi bod Cymru wedi cofnodi'r gyfradd uchaf o farw-enedigaethau yn y DU yn 2024 am y drydedd flwyddyn yn olynol.
4. Yn cydnabod y gefnogaeth hanfodol a ddarperir gan Sands i deuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru, a'i waith i achub bywydau babanod.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at ddyfodol lle mae llai o fabanod yn marw a phob rhiant mewn profedigaeth yng Nghymru yn cael y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.