Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi ymdrechion llywodraethau olynol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, gan gynnwys drwy gynlluniau diweddar Llywodraeth y DU i ôl-ffitio ECO4 a GBIS.
2. Yn cydnabod bod rhai aelwydydd yng Nghymru wedi adrodd pryderon brys ynghylch ansawdd y gwaith a wnaed o dan yr ymyriadau diwethaf, gan gynnwys diogelwch, lleithder, llwydni, awyru, iechyd, ac effeithiau ariannol negyddol.
3. Yn galw ar gyrff perthnasol i gyhoeddi data sy'n benodol i Gymru o ran cartrefi a nodwyd, y cysylltwyd â nhw, a archwiliwyd, a adferwyd ac a ddatryswyd.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'i dylanwad i sicrhau gweithredu ar unwaith, llwybr cyswllt a enwir ar gyfer aelwydydd yr effeithir arnynt ac adfer yn llawn.