OPIN-2026-0527 Nodi 10 mlynedd ers i Gymru Bleidleisio i Adael yr UE (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod 23 Mehefin 2026 yn nodi deng mlynedd ers i bobl Cymru a'r DU bleidleisio'n ddiamheuol i adael yr UE.
2. Yn credu bod canlyniad y refferendwm yn adlewyrchu awydd clir am sofraniaeth genedlaethol, ffiniau diogel ac atebolrwydd democrataidd.
3. Yn gresynu at ymdrechion parhaus gan rannau o'r sefydliad gwleidyddol i danseilio'r mandad democrataidd hwn.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio'n adeiladol i wneud y mwyaf o fanteision Brexit.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barchu ewyllys pobl Cymru a chanolbwyntio ar sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru y tu allan i'r UE.