OPIN-2026-0526 Sicrhau Dyfodol Bwyd Diogel a Chynaliadwy i Gymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus diogelwch bwyd, cynaliadwyedd a gwytnwch yng Nghymru.
2. Yn nodi'r egwyddorion a'r cynigion a nodir yn y Bil Bwyd (Cymru).
3. Yn cydnabod y pwysau parhaus ar aelwydydd, cynhyrchwyr a chadwyni cyflenwi.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ailedrych ar fesurau allweddol y Bil, eu mabwysiadu, a'u hymgorffori mewn polisi a deddfwriaeth yn y dyfodol; a
b) mabwysiadu strategaeth fwyd genedlaethol sy'n cefnogi cynhyrchu lleol, iechyd y cyhoedd, a gwytnwch bwyd hirdymor i gymunedau ledled Cymru.