OPIN-2026-0524 Adsefydlu Ysgyfeintiol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 11/06/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod wythnos adsefydlu ysgyfeintiol yn cael ei chynnal rhwng 15-19 Mehefin 2026.
2. Yn nodi bod adsefydlu ysgyfeintiol yn rhaglen hynod effeithiol o ymarfer corff ac addysg i gleifion sydd â chyflyrau'r ysgyfaint.
3. Yn cydnabod nad yw adsefydlu ysgyfeintiol ar gael yn gyson ledled Cymru.
4. Yn croesawu data newydd y Rhaglen Archwilio Anadlol Genedlaethol sy'n nodi bod llai na 17 y cant o gleifion cymwys wedi. derbyn gwasanaeth adsefydlu ysgyfeintiol yn 2023-2025.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mynediad at adsefydlu ysgyfeintiol yn gyson ledled Cymru ar gyfer y rhai sydd ei angen.