OPIN-2026-0520 Diwrnod Aer Glân 2026
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r cyfle i ddathlu Diwrnod Aer Glân ar 18 Mehefin 2026.
2. Yn nodi bod bron i 2,000 o bobl yn dal i farw'n gynnar bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd llygredd aer.
3. Yn nodi gwaith Awyr Iach Cymru i godi ymwybyddiaeth o beryglon llygredd aer.
4. Yn croesawu gweithredu targedau ar gyfer PM2.5 ac o leiaf un llygrydd arall erbyn diwedd 2026.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anelu at dargedau lefel Sefydliad Iechyd y Byd fel y gall pobl Cymru anadlu aer glân.