OPIN-2017-0052 Cefnogi cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) bod cynghorau iechyd cymuned Cymru yn cynrychioli llais cleifion Cymru;
b) bod y cynghorau iechyd cymuned yn fforwm i sicrhau fod ein byrddau iechyd yn rhannol atebol i’r cleifion;
c) yr angen i’r byrddau iechyd fod yn atebol i gorff sy'n annibynol o’r Llywodraeth;
d) yr angen grymuso'r cynghorau iechyd cymuned ymhellach;
e) nad yw cyngor iechyd yr Alban yn fodel i’w efelychu;
2. Yn pryderu bod cynnigion y Papur Gwyn yn mynd i danseilio a gwanhau llais cleifion Cymru