Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod bod amddiffyn hawliau a diogelwch menywod a merched yn hollbwysig.
2. Yn condemnio arferion sy'n hwyluso voyeuriaeth, aflonyddu ac ymosodiadau rhywiol mewn cyfleusterau cymysg eu rhyw.
3. Yn cydnabod dyfarniad Goruchaf Lys y DU, sy'n cadarnhau ystyr "rhyw", "menyw" a "dyn" o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
4. Yn cydnabod ymhellach ganllawiau Cod Ymarfer drafft y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i Wasanaethau ar ddarparu gofodau a gwasanaethau un rhyw yn gyfreithlon.
5. Yn mynegi cefnogaeth i ymgyrchwyr, gan gynnwys y Rhwydwaith Hawliau Menywod, i adfer a diogelu mannau a gwasanaethau un rhyw.
6. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyrwyddo a chymhwyso'r Cod Ymarfer drafft.