Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y pwysau sy'n wynebu pobl ledled Cymru o ganlyniad i gostau byw cynyddol, bywoliaethau ansicr, colli natur a newid hinsawdd.
2. Yn cadarnhau y gall gweithredu ar yr hinsawdd a natur wella bywydau, cryfhau cymunedau, a sicrhau Cymru decach.
3. Yn cydnabod y gall gweithredu yng Nghymru gefnogi'r rhai sy'n profi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd yn fyd-eang.
4. Yn croesawu ymgyrch Cymru Gyda'n Gilydd.
5. Yn annog Llywodraeth Cymru i:
a) gwneud bywyd yn decach trwy fuddsoddi mewn cartrefi cynhesach ac ynni adnewyddadwy rhatach;
b) rhoi pŵer yn nwylo pobl trwy sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn creu cyfoeth cymunedol ac yn cefnogi gweithwyr; a
c) adfer natur i bawb trwy gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a sicrhau atebolrwydd llygrwyr.