OPIN-2026-0516 Wythnos Gofalwyr 2026 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2026

Mae'r Senedd hon:

1. Yn nodi Wythnos Gofalwyr 2026 (8-14 Mehefin) ac yn croesawu'r thema eleni o adeiladu cymunedau sy'n gyfeillgar i ofalwyr.

2. Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r gwaith diflino a'r ymroddiad a ddangosir gan gannoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru, y mae eu gofal yn cynnal y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

3. Yn gresynu bod gofalwyr di-dâl yn wynebu iechyd gwaelach, mwy o dlodi, gyrfaoedd wedi'u cwtogi ac ynysu oherwydd gofynion gofal.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n gyflym i gau'r bwlch rhwng hawliau gofalwyr yn y gyfraith, a'r realiti y mae llawer yn eu hwynebu bob dydd, er mwyn gwella bywydau gofalwyr ledled Cymru.