Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi Cod Ymarfer drafft y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd wedi'i diweddaru.
2. Yn mynegi undod â phobl drawsrywiol ac yn gwrthod ymdrechion i droi eu hunaniaeth yn rhyfel ddiwylliant sy'n peri rhwyg.
3. Er nad yw'n fater datganoledig, mae o'r farn bod diffygion yn y cymhwysiad ymarferol o ddyfarniad y Goruchaf Lys.
4. Yn cydnabod rhwymedigaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru a diffyg cymhwysedd deddfwriaethol dros faterion a gwmpesir yn y dyfarniad.
5. Yn ymrwymo i weithio gyda darparwyr ar oblygiadau'r dyfarniad a chefnogi gwasanaethau cymunedol dan arweiniad personau.
6. Yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn hawliau LHDTC+ a sicrhau bod pawb yn byw yn rhydd o ofn, rhagfarn, anoddefgarwch a chasineb.