Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi Diwrnod Dim Smygu - diwrnod cenedlaethol o anogaeth i unrhyw un sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu.
2. Yn nodi bod 260,000 o unigolion yn dal i ysmygu, sy'n un o brif achosion anhwylderau y gellir eu hosgoi ac yn ffactor sylweddol o ran anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
3. Yn cydnabod bod llawer o ysmygwyr eisiau rhoi'r gorau iddi ac yn cael eu hysgogi gan iechyd, eu plant, neu gost gynyddol ysmygu.
4. Yn tynnu sylw at y gefnogaeth rad ac am ddim sydd ar gael i unrhyw un sy'n ystyried rhoi'r gorau iddi trwy'r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio.
5. Yn galw ar fyrddau iechyd Cymru i barhau i flaenoriaethu gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu arbenigol a chymhorthion rhoi'r gorau i ysmygu profedig, a sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl.