OPIN-2026-0507 Condemnio Gorthrwm yn Iran
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn condemnio'r gormes a'r trais parhaus yn erbyn pobl Iran gan awdurdodau Iran, gan gynnwys cau sianeli cyfathrebu.
2. Yn mynegi undod â'r rhai yng Nghymru nad ydynt yn gallu cysylltu ag anwyliaid yn y rhanbarth.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) dynodi'r Corfflu Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd fel grŵp terfysgol, fel y mae ein cynghreiriaid yr Undeb Ewropeaidd, Unol Daleithiau America, Canada, ac Awstralia wedi'i wneud;
b) cau llysgenhadaeth Iran; ac
c) ymchwilio i bortffolio eiddo Mojtaba Khamenei yn y DU.