OPIN-2026-0506 Lles Anifeiliaid yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn mynegi ei hymrwymiad cadarn i ddiogelu a gwella lles anifeiliaid yng Nghymru.
2. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i weithredu ei chynllun lles anifeiliaid.
3. Yn cefnogi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar hela llwybrau a'r gwaharddiad parhaus ar hela llwybrau ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
4. Yn croesawu'r gwaharddiad arfaethedig ar rasio milgwn yng Nghymru.
5. Yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru yn erbyn difa moch daear ar lefel dorfol.