OPIN-2026-0505 Ymdrechion Dyngarol a Diplomyddiaeth yn y Dwyrain Canol (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/03/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn talu teyrnged i bobl ledled y Dwyrain Canol y mae trawiadau diwahaniaethol gan Iran wedi effeithio arnynt.
2. Yn galw am gadoediad ar unwaith a dychwelyd i drafodaethau.
3. Yn annog Llywodraeth y DU i ddychwelyd dinasyddion sydd wedi'u dal yno am fod y gofod awyr wedi cau.
4. Yn sefyll wrth ochr y Cymry sydd ag anwyliaid yn y rhanbarth, neu sydd, eu hunain, yn y rhanbarth.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anfon cymorth dyngarol i'r cenhedloedd sy'n wynebu derbyn nifer sylweddol o ffoaduriaid.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiystyru gweithredu milwrol a blaenoriaethu atebion diplomyddol.