OPIN-2026-0504 60 mlynedd o 'Brifysgol yr Awyr' (d) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi 60 mlynedd ers Papur Gwyn Prifysgol yr Awyr a arweiniodd at sefydlu'r Brifysgol Agored.
2. Yn cefnogi ei egwyddorion sylfaenol o fod yn agored i ddysgwyr trwy gydol oes, rhagoriaeth academaidd, a hyblygrwydd.
3. Yn cydnabod rôl ganolog Gweinidog y Celfyddydau Jennie Lee wrth ddatblygu a hyrwyddo'r weledigaeth flaengar hon.
4. Yn llongyfarch y Brifysgol Agored yng Nghymru ar ei chyfraniad parhaus, gyda dros 17,000 o fyfyrwyr presennol wedi'u gwasgaru ar draws pob cymuned.
5. Yn cadarnhau bod egwyddorion y papur gwyn yn hanfodol i ddiwallu anghenion sgiliau, cynhyrchiant, cynhwysiant a dysgu gydol oes Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.