Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi canfyddiadau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Canserau Llai Goroesadwy sy'n tynnu sylw at ddiffyg dybryd o ran cyllid ymchwil, bod canserau'r ymennydd, yr afu, yr ysgyfaint, yr oesoffagws, y pancreas a'r stumog yn cyfrif am bron i 40 y cant o'r holl farwolaethau canser cyffredin yn y DU, ond yn cael llai nag un rhan o bump, sef 18.92 y cant, o gyllid ymchwil canser a ariennir gan lywodraeth y DU.
2. Yn cydnabod bod yr anghydbwysedd hwn yn cyfrannu at ddiagnosis hwyr, opsiynau cyfyngedig o ran triniaeth a chyfraddau goroesi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod brys yr her hon;
b) gweithio gyda phartneriaid yn y DU i adolygu modelau ariannu; ac
c) cefnogi camau i gael gwared ar rwystrau o ran ymchwil a chau'r bwlch ymchwil.