Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi cyfle hanesyddol y broses heddwch cychwynnol yn Türkiye, lle mae'r mudiad Cwrdaidd yn cymryd rhan mewn deialog â gwladwriaeth Türkiye.
2. Yn croesawu camau tuag at heddwch, gan gynnwys cadoediad, diarfogi, diddymu strwythurau arfog, a thynnu'n ôl o dan oruchwyliaeth seneddol.
3. Yn mynegi pryder am garcharorion gwleidyddol sy'n parhau i fod yn gaeth, ac yn annog cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi, gyda'r DU a'r gymuned ryngwladol, ymdrechion i gael setliad wedi'i negodi sy'n parchu democratiaeth, hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith.
5. Yn cadarnhau ei chefnogaeth i gymunedau Cwrdaidd a Thwrcaidd yng Nghymru a'r DU i hyrwyddo datrysiad heddychlon.