OPIN-2025-0499 Galwadau am ddiwedd ar unwaith i'r rhyfel cartref yn Sudan
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi'r cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol rhwng Cymru a Sudan.
2. Yn mynegi pryder difrifol am y rhyfel cartref parhaus yn Sudan a dioddefaint miliynau.
3. Yn bryderus iawn ers i'r rhyfel cartref ffrwydro yn 2023 bod mwy na 12.7 miliwn o bobl wedi cael eu dadleoli yn orfodol y tu mewn i'r wlad, lawer gwaith.
4. Yn gresynu bod 24.6 miliwn o bobl Sudan yn wynebu newyn acíwt.
5. Yn estyn cydymdeimlad dwysaf â dinasyddion Cymru sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y gwrthdaro.
6. Yn galw am ddiwedd ar unwaith i'r rhyfel cartref.
7. Yn annog y gymuned ryngwladol i gynyddu cyllid ar frys, ynghyd â gweithredu diplomyddol.