OPIN-2025-0498 Llongyfarchiadau i Magic Lantern, Tywyn
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi cyflawniad eithriadol sinema Magic Lantern yn Nhywyn yn cael ei henwi'n Sinema y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain 2025.
2. Yn cydnabod cyfraniad hanfodol y sinema i ffilm annibynnol a'i rôl fel conglfaen diwylliannol i gymunedau ledled Meirionnydd.
3. Yn nodi ymhellach fod y Magic Lantern wedi gwasanaethu cynulleidfaoedd yng nghefn gwlad Cymru ers dros ganrif, gan gynnig rhaglen gynhwysol ac amrywiol, ac yn parhau i fod ar agor 363 diwrnod y flwyddyn.
4. Yn canmol ymroddiad ei staff a'i gwirfoddolwyr i gynnal y lleoliad hanesyddol hwn.
5. Yn dathlu ei llwyddiant parhaus wrth hyrwyddo ffilmiau a'r celfyddydau yng Nghymru.