OPIN-2025-0493 Arafu Dŵr Glaw: Yn helpu i liniaru sychder a llifogydd (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod cynaeafu dŵr glaw o doeau i danciau storio yn lleihau'r risg o lifogydd, drwy arafu dŵr ffo yn ystod glaw trwm.
2.Yn cydnabod bod dŵr glaw wedi'i hidlo yn adnodd gwerthfawr o ran dŵr nad yw'n ddŵr yfed, at ddibenion domestig, diwydiannol ac amaethyddol.
3. Yn annog defnyddio dŵr glaw i adeiladu Cymru wydn o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2025.
4. Yn canmol ymgyrch y Gymdeithas Ailddefnyddio Dŵr, i bob adeilad newydd yng Nghymru gynnwys y gallu i ailddefnyddio dŵr.
5. Yn cydnabod y llu o fanteision casglu dŵr glaw, waeth beth yw statws cynllunio sychder a gaiff ei ragweld gan ymgymerwyr dŵr.