OPIN-2025-0491 Gwrthwynebu'r penderfyniad i ehangu gallu arfau niwclear y DU (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/10/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) NDM7945, a basiwyd gan y Senedd, yn galw ar bob gwladwriaeth i lofnodi a chadarnhau Cytuniad y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear;
b) penderfyniad Llywodraeth y DU i brynu 12 o jetiau ymladd F-35A â gallu niwclear o'r Unol Daleithiau.
2. Yn gresynu at y penderfyniad hwn i ehangu gallu niwclear Prydain, gan dorri ei rhwymedigaethau o dan y Cytundeb Atal-Lledaenu Niwclear.
3. Yn credu bod y cam hwn yn cynyddu ansefydlogrwydd byd-eang, yn dargyfeirio biliynau i ffwrdd o wasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac yn cyfrannu at chwalfa hinsawdd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r penderfyniad hwn, ailymrwymo i ddiarfogi niwclear, blaenoriaethu diplomyddiaeth a heddwch, a gweithio i ddilyn polisi tramor yn seiliedig ar ddad-ddwysáu, diplomyddiaeth a chydweithrediad rhyngwladol.