OPIN-2025-0490 Llongyfarch Jess Fishlock (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch Jess Fishlock ar ei gyrfa bêl-droed ryngwladol i Gymru.
2. Yn dathlu ei chyfraniad aruthrol i bêl-droed a chwaraeon Cymru, gan gynnwys dros 160 o gapiau rhyngwladol hŷn a 48 o goliau.
3. Yn cydnabod ei lle fel arloeswr, ac un o arwyr chwaraeon mwyaf Cymru, sydd wedi newid cyfeiriad pêl-droed merched.
4. Yn diolch iddi am fod yn ysbrydoliaeth i gymaint o fenywod a merched.