OPIN-2025-0489 Annog Argaeledd Naloxone a'r Defnydd Ohono (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y broblem gynyddol o farwolaethau opioid yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas ag argaeledd dewisiadau amgen synthetig pwerus yn lle heroin.
2. Yn nodi bod Naloxone wedi achub bywydau llawer o bobl sydd wedi cael gorddos o opioidau, fel yr amlygwyd yn Adroddiad Naloxone Byddin yr Iachawdwriaeth a chan yr elusen gyffuriau, Kaleidoscope yng Nghasnewydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Naloxone ar gael yn fwy helaeth, yn enwedig i unrhyw un sy'n gadael lleoliad gofal iechyd neu garchar ag angen cymorth am opioidau.
4. Yn gofyn am gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod rhagor o bobl yn gwybod am botensial achub bywydau Naloxone a sut y caiff ei roi.