Mae'r Senedd hon:
1. Yn cefnogi ymgyrch Athletau Cymru, Ein Nos Ni, ac yn cymeradwyo ei waith i rymuso rhedwyr benywaidd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud ymdrechion i sicrhau bod rhedeg yn ddiogel ac yn gynhwysol i bawb, a sicrhau bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn elfennau o'i strategaeth yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
3. Yn cydnabod bod pryderon am ddiogelwch, yn enwedig yn ystod misoedd tywyllach, yn arwain llawer o fenywod i addasu neu gyfyngu ar eu gweithgarwch corfforol.
4. Yn croesawu ffocws yr ymgyrch ar feithrin amgylcheddau rhedeg mwy diogel.
5. Yn annog menywod i aros yn egnïol trwy gydol y flwyddyn drwy hyrwyddo hyder a chodi ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch personol.