OPIN-2025-0487 Llongyfarchiadau i Dîm Ewrop ar ennill Cwpan Ryder 2025
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2025
1. Yn llongyfarch Tîm Ewrop ar eu buddugoliaeth yng Nghwpan Ryder 2025, gan arddangos rhagoriaeth, gwaith tîm a phenderfyniad.
2. Yn cydnabod Cwpan Ryder fel un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf mawreddog y byd, sy'n ysbrydoli cenedlaethau newydd o golffwyr ledled Cymru.
3. Yn nodi gyda balchder bod Cymru wedi cynnal Cwpan Ryder yn y Celtic Manor yn 2010, sef digwyddiad nodedig a ddaeth â manteision economaidd, diwylliannol a chwaraeon sylweddol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau i Gwpan Ryder a Chwpan Solheim ddychwelyd i Gymru, gan adeiladu ar hanes profedig Cymru fel man o safon fyd-eang ar gyfer cynnal digwyddiadau golff rhyngwladol a digwyddiadau chwaraeon mawr.