OPIN-2025-0486 Mis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) mai Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Plentyndod;
b) bod tua 180 o bobl o dan 25 oed yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru, gyda thua 80 yn blant;
c) bod canser yn parhau i fod y prif achos marwolaeth sy'n gysylltiedig â chlefydau mewn plant a phobl ifanc;
d) yr heriau unigryw sy'n wynebu plant a phobl ifanc â chanser e.e. triniaeth mewn canolfannau arbenigol, cael gafael ar wasanaethau sy'n briodol i'w hoedran, a chymorth seicolegol unigryw; ac
e) y costau ariannol sylweddol, gan gynnwys costau teithio i gael gafael ar driniaeth a gofal.
2. Yn galw ar y Llywodraeth i gydweithio â phartneriaid i gefnogi plant a phobl ifanc â chanser a'u teuluoedd fel nad oes neb yn wynebu canser ar ei ben ei hun.