OPIN-2025-0485 Pob lwc i dîm pêl-rwyd o dan 21 Cymru yng Nghwpan Pêl-rwyd Ieuenctid y Byd
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Llongyfarch tîm pêl-rwyd o dan 21 Cymru ar gymhwyso ar gyfer Cwpan Pêl-rwyd Ieuenctid y Byd yn Gibraltar, 19–28 Medi 2025.
2. Yn cydnabod hyn fel carreg filltir i chwaraeon Cymru ac yn dystiolaeth i ymroddiad, talent a gwaith caled athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a theuluoedd.
3. Yn nodi mai pêl-rwyd yw'r gamp tîm benywaidd a gaiff ei chwarae fwyaf yng Nghymru, a bod y tîm hŷn, Plu Cymru, yn y 6ed safle yn fyd-eang.
4. Yn dathlu llwyddiant pêl-rwyd Cymru a'r balchder y bydd y tîm o dan 21 yn cynrychioli'r genedl.
5. Yn dymuno llwyddiant i'r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r staff cymorth yn y twrnamaint.