OPIN-2025-0484 Trychineb Suez Maru 1943 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/09/2025

Mae'r Senedd hon
1. Yn nodi:
a) suddo trasig y Suez Maru ar 29 Tachwedd 1943, lle bu farw 550 o garcharorion rhyfel y cynghreiriaid ar ôl cael eu taro â thorpido gan yr USS Bonefish, heb fod yn ymwybodol o'i llwyth dynol;
b) bod goroeswyr wedi cael eu dienyddio gan luoedd Japan, gan dorri cyfraith ryngwladol; ac
c) bod 41 o'r carcharorion rhyfel hynny o Gymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i:
a) cydnabod galwad Ymgyrch Ymddiheuriadau Suez Maru am ymddiheuriad dros fethu â chynnal treialon troseddau rhyfel; a
b) anrhydeddu dioddefwyr trwy addysg, cofio a chefnogaeth.