OPIN-2025-0482 Cefnogi Wythnos Siopa Caredig 2025 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2025

Mae’r Senedd hon:

1. Yn croesawu ymgyrch diwydiant manwerthu #SiopaCaredig ac Wythnos #SiopaCaredig sy'n dechrau ar 30 Mehefin 2025, sydd wedi’u cydlynu gan y Gymdeithas Siopau Cyfleustra a’u cefnogi gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru.

2. Yn gresynu at y broblem gynyddol o gam-drin gan gwsmeriaid a thrais tuag at weithwyr siopau.

3. Yn cefnogi’r syniad o hyrwyddo ymddygiad caredig, cwrtais a pharchus mewn siopau a sicrhau diogelwch pob gweithiwr manwerthu, fel bod pawb yn gallu mwynhau siopa wrth gefnogi swyddi lleol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru ac eraill i ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o effaith cam-drin a thrais tuag at weithwyr siopau, ac i gydweithio i fynd i'r afael â hyn.