OPIN-2025-0481 Diwrnod Aer Glân 2025
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2025
Mae’r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r cyfle i ddathlu Diwrnod Aer Glân ar 19 Mehefin 2025.
2. Yn nodi bod bron i 2,000 o bobl yn dal i farw'n gynnar bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd aer llygredig.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r holl fesurau a ddarperir gan Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 - gan gynnwys targedau mesuradwy ar gyfer llygryddion – a gwaharddiad ar segura, yn ystod tymor y Senedd hon.