Mae’r Senedd hon:
1. Yn nodi mai 15 Mehefin 2025 yw’r Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn, sef galwad fyd-eang i roi diwedd ar gam-drin, niweidio, ecsbloetio ac esgeuluso pobl hŷn.
2. Yn cydnabod gwaith hanfodol Hourglass, yr unig elusen ledled y DU sydd wedi ymrwymo i roi diwedd ar gam-drin pobl hŷn, gan gynnwys ei hyb a'i gwasanaethau camdriniaeth economaidd yng Nghymru.
3. Yn mynegi pryder bod achosion o gamdriniaeth yn effeithio ar fwy na 2.5 miliwn o bobl hŷn bob blwyddyn, a bod stigma a thangofnodi yn rhwystrau mawr i gyfiawnder.
4. Yn galw am i Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru gael ei weithredu’n llawn a’i adolygu’n flynyddol.
5. Yn cefnogi strategaeth heneiddio'n fwy diogel i Gymru.