OPIN-2025-0479 Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Babanod
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Babanod, 9 - 15 Mehefin.
2. Yn cydnabod bod y 1000 diwrnod cyntaf yn gyfnod hollbwysig yn natblygiad babi.
3. Yn mynegi pryder bod lleisiau babanod yn aml yn cael eu hanwybyddu wrth ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau.
4. Yn canmol Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar am eu haddewid dros fabanod yng Nghymru, sy'n sicrhau bod pob baban yn cael ei glywed a'i hawliau'n cael eu cynnal.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Aelodau o'r Senedd i ymrwymo i hyrwyddo hawliau babanod ac i ymgorffori eu hanghenion, eu lleisiau a'u llesiant wrth wraidd pob polisi a phenderfyniad.