OPIN-2025-0478 Cymorth i Ysgol Gymraeg Llundain (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2025

Mae'r Senedd hon:

1. Yn cydnabod Ysgol Gymraeg Llundain fel:

a) ased gwerthfawr wrth greu siaradwyr Cymraeg newydd drwy addysg cyfrwng Cymraeg;

b) canolbwynt wrth gysylltu ac ailgysylltu teuluoedd y Cymry ar wasgar â'u treftadaeth; ac

c) sefydliad pwysig sy'n cynnal digwyddiadau diwylliannol Cymreig a sefydliad disglair diwylliannol Cymreig dros y ffin.

2. Yn gresynu at y penderfyniad i dynnu ei grant blynyddol o £90,000 yn ôl o fis Mawrth 2026.

3. Yn cytuno y byddai cau Ysgol Gymraeg Llundain yn golygu:

a) colli cymuned â gwreiddiau dwfn sydd â model sefydledig o drosglwyddo diwylliannol ac ieithyddol; a

b) colli ased gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.