OPIN-2025-0477 Mis Ymwybyddiaeth Clefyd Seliag 2025
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 23/05/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi mai mis Mai yw Mis Ymwybyddiaeth Clefyd Seliag, sy’n gyfle i godi ymwybyddiaeth o gyflwr awto-imiwn sy’n effeithio ar un o bob 100 o bobl yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod dwy ran o dair o’r bobl sy'n byw â’r clefyd yn dal heb gael diagnosis, gan olygu bod tua 20,000 o bobl yng Nghymru yn wynebu risg o gymhlethdodau iechyd hirdymor.
3. Yn croesawu gwaith Coeliac UK wrth wella’r cyfraddau diagnosis a chymorth i bobl sy’n byw â’r cyflwr, gan gynnwys drwy ddarparu bwyd heb glwten ar bresgripsiwn.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu’r llwybr clinigol ar gyfer clefyd seliag i wella diagnosis a’r gwaith parhaus o reoli’r cyflwr.