OPIN-2025-0475 Addysg Grefyddol a Diwinyddol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 14/05/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod gwerth addysg grefyddol a diwinyddol i gymdeithas wrth frwydro yn erbyn camwybodaeth, casineb a rhaniad.
2. Yn credu bod angen diogelu cyrsiau crefydd a diwinyddiaeth wyneb yn wyneb ym mhrifysgolion Cymru oherwydd y cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ryngweithio â'r rhai sy'n darllen pynciau eraill, megis newyddiaduraeth, ac yn astudio ar gyfer gyrfaoedd mewn rolau dylanwadol a all hyrwyddo cydlyniant cymunedol a thrawsnewid.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector addysg uwch yng Nghymru i ddiogelu cyrsiau crefydd a diwinyddiaeth wyneb yn wyneb yng Nghymru.