Mae'r Senedd hon:
1. Yn canmol Consortiwm Manwerthu Cymru a Chonsortiwm Manwerthu Prydain am eu canllawiau gwirfoddol ar werthu barbeciwiau untro mewn modd cyfrifol yn ystod digwyddiadau gwres eithafol.
2. Yn croesawu'r fenter hon sydd wedi'i datblygu i berchnogion siopau mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.
3. Yn nodi mai'r diben yw annog siopau i gynghori'n well ar sut i ddefnyddio a gwaredu barbeciwiau untro mewn modd cyfrifol, atal tanau gwyllt, annog cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid pan fydd digwyddiadau gwres eithafol, ac annog pob manwerthwr i fabwysiadu'r canllawiau.
4. Yn nodi bod manwerthwyr wedi ymrwymo i ddiogelwch cwsmeriaid ac, yn achos rhybuddion tanau gwyllt eithafol, y byddent yn cadw at y canllawiau ac yn tynnu barbeciwiau untro yn ôl o werthiant.