OPIN-2025-0473 Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2025 yr Urdd
(w)
Wedi’i gyflwyno ar 12/05/2025
Mae’r Senedd hon:
1. Yn cefnogi Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2025 yr Urdd sy’n galw am weithredu yn sgil yr argyfwng tlodi plant yng Nghymru ac ar draws y byd.
2. Yn gresynu bod un ym mhob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phawb sydd mewn grym ar draws y byd i feddwl ac ystyried cenedlaethau’r dyfodol yn unol â Neges yr Urdd.
4. Yn diolch i aelodau’r Urdd a myfyrwyr o Goleg y Cymoedd, gyda chefnogaeth Katie Hall o’r band Chroma, Achub y Plant Cymru a'r dylunydd graffeg Steffan Dafydd am greu'r Neges.