OPIN-2025-0472 Pen-blwydd Hapus yn 99 oed i Syr David Attenborough
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 08/05/2025
Mae'r Senedd hon:
1. Yn dymuno pen-blwydd hapus i'r darlledwr a'r naturiaethwr enwog Syr David Attenborough, sy'n troi'n 99 oed heddiw (8 Mai).
2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae wedi'i wneud ers degawdau lawer i Gymru a gweddill y DU o ran tynnu sylw at yr argyfyngau hinsawdd a natur sy'n wynebu'r blaned.
3. Yn nodi ei ffilm diweddaraf (ac un o'i bwysicaf hyd yn hyn) Ocean, sy'n tynnu sylw at y dirywiad mewn bywyd yng nghefnforoedd y byd a'u pwysigrwydd i'r system sy'n cynnal y blaned.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru ac eraill i wneud popeth o fewn eu gallu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.