OPIN-2025-0470 Diwrnod Iechyd Meddwl Mamau'r Byd (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/04/2025

Mae’r Senedd hon:
1. Yn croesawu Diwrnod Iechyd Meddwl Mamau’r Byd ar 7 Mai 2025.
2. Yn nodi â phryder y lefel uchel o broblemau iechyd meddwl amenedigol a welir ymhlith rhieni newydd a darpar rieni, gan effeithio ar un o bob pum mam ac un o bob deg tad.
3. Yn cydnabod, os na ddarperir y cymorth cywir, y gall problemau iechyd meddwl amenedigol gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl mamau, partneriaid a’u babanod.
4. Yn mynegi pryder bod yna fylchau o ran y cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol sydd ar gael yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall pob rhiant newydd a darpar riant gael gafael ar gymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol mewn modd amserol.