OPIN-2025-0469 CPD Wrecsam - Tri Dyrchafiad o'r Bron (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn llongyfarch y rheolwr Phil Parkinson, y chwaraewyr a phawb sy'n gysylltiedig â Chlwb Pêl-droed Wrecsam ar ôl sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth.
2. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol a digynsail y clwb o sicrhau tri dyrchafiad o'r bron.
3. Yn canmol cysylltiad annatod CPD Wrecsam â'r gymuned a'i effaith gadarnhaol a thrawsnewidiol barhaus.
4. Yn dymuno pob lwc i'r chwaraewyr, y rheolwr, y staff, y perchnogion a'r cefnogwyr yn y Bencampwriaeth.