OPIN-2025-0468 CPD Wrecsam (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/04/2025

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi sicrhau dyrchafiad i ail haen y gynghrair bêl-droed am y tro cyntaf ers 47 mlynedd.
2. Yn llongyfarch y clwb am y llwyddiant digynsail o gael dyrchafiad tri thymor yn olynol.
3. Yn llongyfarch Phil Parkinson am gyflawni chweched dyrchafiad gyrfa.
4. Yn croesawu effaith gadarnhaol barhaus y clwb ar y gymuned.
5. Yn dymuno pob lwc i chwaraewyr, staff, perchnogion a chefnogwyr Wrecsam yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.